Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2018
Amser:
09.03 -
10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5069
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Tim England, Cyfoeth Naturiol Cymru John Hogg, Cyfoeth Naturiol Cymru Gavin Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru Gareth O'Shea, National Resources Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 a thrafod y ddwy ddeiseb gyda'i gilydd yn y dyfodol;
· rhannu'r sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth;
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i lunio adroddiad sy'n canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn argyfwng, ac i ddefnyddio'r adroddiad hwn fel sail ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Bu'n ddefnyddiwr gwasanaethau Both Parents Matter ac yn wirfoddolwr dros y mudiad; ac
mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro ar hyn o bryd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan CAFCASS Cymru a chytunodd i:
· ofyn barn y deisebydd ar y wybodaeth a gafwyd gan CAFCASS Cymru;
· ysgrifennu yn ôl at CAFCASS Cymru i ofyn bod copi o'r canllawiau ymarfer yn cael ei roi i'r Pwyllgor pan fyddant ar eu ffurf derfynol, ac i amlinellu'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu a ddarparwyd i ymarferwyr CAFCASS Cymru sy'n ymdrin ag ymddygiadau dieithrio; ac
· ystyried gofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau eraill yn y maes hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
· aros am y camau gweithredu gan y Pwyllgor Dethol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn San Steffan ynghylch ymchwiliad posibl i argaeledd Orkambi.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ailadrodd y cais am yr amserlen debygol ar gyfer penderfynu ar fuddion Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a'u cyfathrebu, a gofyn iddo roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r cymorth ariannol i fuddiolwyr unwaith y bydd buddion y cynllun wedi'u pennu.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y bwrdd iechyd i:
· ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, gan gynnwys amserlenni a gwaith i ymgysylltu â chymunedau lleol yn y dyfodol; a
· gofyn am sicrwydd y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau yn ystod y gwaith o ddatblygu ysbyty newydd ac ni fydd gwasanaethau'n cael eu tynnu oddi ar Ysbyty Llwynhelyg cyn bod ysbyty newydd yn agor.
Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb a chytunodd i'w chau, o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers y cysylltiad diwethaf â'r deisebydd a'r cynnig blaenorol a wnaed gan Gyngor Caerdydd i ddwyn y mater hwn yn ei flaen yn lleol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Sir Gâr ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y deisebwyr bellach yn fodlon â'r sefyllfa a'r cynnydd a wnaed wrth annog awdurdodau lleol yng Nghymru i fabwysiadu polisi sganio am ficrosglodion.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunodd i:
· rannu manylion y ddeiseb â'r Pwyllgor Cyllid;
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebwyr a chytunodd i:
· anfon sylwadau ychwanegol y deisebwyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn iddi ymateb i'r pwyntiau a godwyd a rhoi gwybod am y camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd; a
· gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r sylwadau hyn a'r adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, ystyried trefnu dadl yn ystod amser y Llywodraeth ar ddatblygu ynni gwyrdd a chefnogaeth i'r gwaith hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'r deisebau sy'n dod i law, a barn trigolion lleol, yn cael eu hystyried yn ystod y broses o adolygu'r terfyn cyflymder. Wrth wneud hynny, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y deisebydd i egluro'r rhesymau dros hyn ac i egluro na all y Pwyllgor Deisebau ei hun wneud y newid y gofynnwyd amdano yn uniongyrchol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am esboniad manylach ynghylch argaeledd cerbydau, gan ofyn a yw Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull posibl i gael gafael ar gerbydau ychwanegol i wella gwasanaethau ledled Cymru.
Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Hogg, Tim England, Gavin Jones a Gareth O'Shea o Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru y byddent yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y rhagolygon llifogydd sy'n gysylltiedig â Nant y Rhath.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y cyfarfod arfaethedig rhwng y rhanddeiliaid perthnasol.
Nodwyd y papur a thrafododd y Pwyllgor gynnig i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y broses ddeisebu yn y dyfodol.